Byddarol, digidol, arbrofol, diwydiannol, swnllyd, ffycd up.

DJ neu SJ (Sound Jockey) o'r enw SJ Geiger ydy'r ffigwr tu ôl i'r TLLF. Fe ysbrydolwyd ef ar ôl ymweld a chanolfan ymwelwyr yr orsaf Niwcliar bondigrybwyll a dechreuodd SJ Geiger recordio eu draciau arbrofol yn stiwdio'r Atik yng Nghaerdydd a'i anfon at yr orsaf radio amgen, RADIO D, oedd yn darlledu ar y rhyngrhwyd yn hanner cyntaf 2000. Rhoddwyd cryn dipyn o airplay i stwff arbrofol cynnar y TLLF ar yr orsaf ac yn sgil hyn, gwahoddwyd y "Front" i berfformio mewn noson arbennig o dan y teitl, "Labordy Swn Cont" yn Theatr y Chapter, Caerdydd yn Haf 2000. Bu'r noson yn llwyddiant ysgubol ac roedd y TLLF yn mynd o nerth i nerth. Bellach mae'r TLLF wedi creu cryn dipyn o gynwrf ar y rhyngrhwyd, ac wedi fe'i gwahoddwyd i berfformio yng Ngwyl gelfyddydol yn Barcelona gyda'r grwp BomBoomBomB. Ym mis Rhagfyr 2000 rhyddhaodd Recordiau Fitamin Un album gyntaf y TLLF.Cynhyrchwyd "Croeso I'r Canolfan Ymwelwyr" mewn dull Lo-Fi iawn gyda offer recordio cyfinedig iawn, ac heb ddefnyddio unrhyw samplers.

Thema Radio Traws