Cymdeithas Carnhuanawc

Darlith Carnhuanawc 2005

Er mai “Cymru a’r Frenhines Victoria ” oedd testun darlith Carnhuanawc 2005, a draddodwyd gan John Davies ar nos Wener 11 Mawrth, taflodd John ei rwyd rywfaint ymhellach, gan ddal ewyrthr Sior yr hen frenhines hefyd. Wrth lanio yng Nghaergybi o Ddulyn cafodd wybod am farwolaeth Napoleon. “Mae eich prif elyn wedi marw syr!” oedd y cyfarchiad. “Beth?” oedd ei ymateb, “doeddwn i ddim yn ymwybodol bod fy ngwraig yn sâl!”
Wedi cyflwyno felly gyflwr bywyd teuluol Tŷ Hanover , aeth John ymlaen yn ei ffordd ddihafal i ddifyru’r gynulleidfa gyda hanes perthynas y cwîn ei hun â Chymru, gan wrth-gyferbynu ei rhagfarnau a’i ffaeleddau ag eilun addoliad y rhan fwyaf o’r Cymry ohoni. Mewn darlith a weddai i ysbryd trylwyr ond ffraeth Carnhuanawc, profodd John unwaith eto gysondeb y thema o frwydr barhaus rhwng gwladgarwch a thaeogrwydd sydd yn rhedeg trwy fywyd Cymru.  

tudalen hafan