Cymdeithas Carnhuanawc
Eisteddfod 2005
Anerchiad
gan
‘Iolo Morganwg – Casglwr Llęn Gwerin’
“
Do not forget the services of this poor old man” oedd geiriau Carnhuanawc ar
ôl cyfarfod â Iolo Morganwg ac yn wir nid yw’r Dr Mari-Anne Constantine
sy’n Bennaeth prosiect ‘Iolo Morganwg ar y traddodiad rhamantaidd yng
Nghymru wedi gadael
‘services’ Iolo fynd yn angof. Mae
Dr Mary-Anne, sy’n un o dim yr Athro Geraint Jenkins yng Nghanolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn dal i gloddio drwy’r trwch
llawysgrifau adawodd Iolo ar ei ôl.
Dr
Mary-Anne oedd siaradwraig wadd y gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym
Mro Eryri eleni. Trosglwyddodd yn ei
hanerchiad ei brwdfrydedd heintus yn y cymeriad cymlheth â’r ‘meddwl
anormal’ hwn i ni’r gynulleidfa. Siaradodd amdano fel dyn ei gyfnod - yr oes
ramantaidd, dyn a chanddo gariad angerddol at ei fro ac yn barod i ‘wyrdroi
hanes’ er mwyn dyrchafu ei Forgannwg hoff.
Dyn amlochrog, saermaen wrth ei alwedigaeth ond oedd a diddordeb mewn
adeiladau o’r odyn i’r Castell, diddorai yng nghrefft a dysg y werin,
cofnodai eiriau’r werin. Roedd yn
gerddwr diflino. Cerddai o’i gartref ym Mro morgannwg mor bell â Rhydychen a
Llundain. Diddorai ym myd natur,
cofnodai’r planhigion a welai ar ei deithiau a rhoiai enwau Cymraeg iddynt.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn amaethyddiaeth ac yn perthyn i’r
Agricultural Society. Gallai
ganu’r ffliwt a chyfansoddodd ganoedd o emynau (er nad oes fawr o ganu arnynt
heddiw!).
Bydd
llyfr y Dr Mary-Anne Constantine The Truth
Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery [GPC]
yn Hydref 2006 ac wedi cael
rhagflas o’r cymeriad hynod hwn yn y ddarlith bydd mawr edrych ymlaen i’w
ddarllen.
Arddangosfa Carnhuanawc | Pwll Glo Pentre Berw | tudalen hafan