Taith i Iwerddon - Gorffennaf 2005

 

Gafodd Carnhuanawc yng Ngorffennaf  1826 gystal croeso tybed gan Iarlles Dunraven y cyfnod ac a gawson ni gan yr Iarlles Dunraven bresennol yng ngwesty moethus Castell Dunraven Adare, Swydd Clare, a sut y buasai wedi ymateb tybed i glywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn Eglwys Adare yn y gwasanaeth fel y clywom ni hi gan Rachel Lewis y Ficer bresennol?  (Gweler llun o’r )

Yr Iarlles, Keith a Rachel

Clogwynau Moher

Hywel ac Almut

Adare oedd uchafbwynt a nod ein taith i’r Iwerddon ac yma drwy ei gyfeillgarwch â Maria Jane Williams Aberpergwm, oedd a chysylltiad teuluol a theulu Castell Dunraven Bro Morgannwg ac yna â theulu’r Quiniaid, uchelwyr Adare, y treuliodd Carnhuanawc ran o’i ddeufis yn yr Iwerddon.

Tra treuliodd Carnhuanawc y gweddill o’i wyliau yn yr Iwerddon yn teithio Swydd Ceri yn ei goits fawr, cawsom ni yn griw rhadlon o dri ar ddeg yn ein bws mini, brofi peth ar hanes Iwerddon drwy ymweld â chastell hynafol Cashel, taith o gwmpas tref hanesyddol Kilkenny, taith ar hyd ardal  foel a llwm y Burren ac arfordir Clare i glogwyni arswydus Moher.         Taith wir gofiadwy.   Diolch Keith

tudalen hafan