Gyntaf, roedd yr hen Glanmor yn galw ar i'r cynulliad wastraffu arian trethdalwyr Cymru ar ddenu timau o Loegr i Gaerdydd. Rwan, mae Maer Caerdydd, Russell Goodway - a gondemniwyd gan lawer am wastraffu arian trethdalwyr Caerdydd ar ei gyflog ei hun - wedi ychwanegu ei lais i'r ddadl. Ond awn ni ddim i drafod yr achos hwnnw, rhag cael ein tynnu i anghydfod cyfreithiol. Teg dweud yn unig, fod Goodway, y tro hwn beth bynnag, yn bleidiol i wastraffu arian cyhoeddus.

Pwysig yw cofio mai Cynulliad Cenedlaethol CYMRU yr ydym yn ei drafod nawr, ac os ydych yn gofyn i mi, dyletswydd y corff hwn yw edrych ar ôl buddiannau Cymru nid Pel-droed Lloegr. Ysgwn i pe byddech yn cytuno y byddai gwario'r arian ar wella Pel-droed yng Nghymru yn ddefnydd llawer mwy teilwng - beth am sefydlu academi Bel-droed i wella'n tim Cenedlaethol. Neu beth am roi'r arian i gryfhau ein Cynghrair Genedlaethol a gwella ein perfformiadau yn Ewrop? Neu beth am yr alwad Doriaidd gyson y byddai swm o'r fath yn codi'r gwasanaeth iechyd a'n hysgolion ar eu traed? Dadl wleidyddol sy'n gwneud mwy o synnwyr na dadl Plaid Cymru sy'n dweud y byddai'n rhoi Cymru ar y map. Ond mae'n debyg y bydd gwylwyr y gwpan dros y byd yn credu mai lleoliad y ffeinal fydd "Cardiff, England."

Rwan, cywirwch fi os nad wyf yn iawn, ond dydw i ddim yn cofio grant o'r fath yn cael ei fynnu gan Lywodraeth Prydain (neu hyd yn oed Red Ken os yw'n dod i hynny) i'r gwpan gael ei chynnal yn Llundain. Felly pam y gwahaniaeth y tro hwn? Ddyweda i wrthoch chi pam - am fod yna gymaint o glory-hunters o fewn y cyfryngau Cymreig (yn enwedig y rhai Cymraeg eu hiaith) yn gwthio Pêl-droed Lloegr gan ganmol 'cewri' fel Michael Owen. Mae hyn yn cael effaith amlwg ar agwedd pobl ar draws Cymru.

Gobeithio bydd arweinyddiaeth Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw at eu polisi presennol o beidio roi i mewn i'r Undeb 'Dilyn yr Wy' (Rygbi), Russel Goodway a Phlaid Cymru sydd yn barod i gytuno a beth allai fod yn lythyr hunan-laddiad i statws annibynnol Cymru mewn Pêl-droed. Wrth gwrs, mae trafod cael senedd yn gwneud synnwyr iddynt, ond, pan mae'n dod i beldroed, ymddangos mai undeb agosach â Lloegr yw eu cri.

First it was Glanmor calling the assembly to waste the money of Welsh taxpayers to attract English clubs to play in Cardiff. Now, Cardiff's Mayor, Russell Goodway - condemned by many for wasting Cardiff Taxpayers money on his own wage - has added his voice to the argument. But we will not go into that case, to avoid being dragged into legal wrangles. It's fair only to say that Goodway is this time definitely in favour of wasting money.

It's important to remember that the topic of our discussion is the National Assembly for WALES, and if you ask me, the task of that body is to protect the interests of Wales, not English Football. I wonder if you would agree with me that this money would be better spent on the improvement of Football in Wales - what about setting up a new Football academy to improve our national team. Or what about spending it on the League of Wales to improve our performances in Europe? Or what about the Tory's un-relenting arguments that such an amount of money would put the National Health Service and our Schools on their feat? A political argument that makes for more sense than Plaid Cymru's claims that this would put Wales on the map. But it's likely that the viewers of the final across the World would be led to believe that the final would take place in "Cardiff, England."

Now, correct me if I'm wrong, but I can't recall such a grant being called for from the British Government (or even Red Ken if it comes to that) for the final to be held in London. So why the difference this time? I'll tell you why - because there are so many Gloryhunters in the Welsh media (especially the welsh-language media) are pushing English Football by holding up people like Michael Owen as heroes. This has an obvious effect upon the attitude of people across Wales.

Let's hope the Labour and Lib Dem administration continue to oppose throwing money away and don't give in to the pressure from the 'Egg Chasing' (rugby) Union, Russell Goodway and Plaid Cymru who are prepared to back something that could amount to a suicide note to Wales' independent state in Football. They talk about having a parliament for Wales, but when it comes to football it seems that a closer union to England is their call.

© Mêts Abbandonato.