Rule Britania 2.

Mae'r unig aelod Plaid Cymru a benderfynodd aros yn San Steffan yn hytrach na chamu i'r cynulliad, wedi dweud ei nad yw'n mynd i wrthod yn llwyr syniadau Jack Straw am ddiddymu tîm Cymru gan sefydlu tîm Prydain (Lloegr). Dywedodd ar raglen "Stondin Sulwyn" ar Radio Cymru nad oedd yn credu fod y syniad o gael tîm Prydain mor "lloerig" ag oedd pobl wedi dadlau i ddechrau. Dywedodd bod tîm Prydain wedi bodoli ers amser mewn Rygbi o dan enw'r llewod. Ond aros funud bach Elfyn ﷓ dydi cael tîm y llewod ddim wedi golygu gorfod cael gwared ar dim cenedlaethol. A prun bynnag dydi ffolineb y "bois" rygbi ddim yn gwneud sylwadau Straw yn iawn ydyn nhw.

Mae'n ymddangos fod Plaid Cymru mewn gymaint o benbleth am statws annibynnol Cymru fel gwlad yn y byd Pêl﷓droed ag ydyn nhw am statws gwleidyddol annibynnol Cymru. Mae'n siwr eu bod nhw'n dadlau y dylai tîm pêl﷓droed Cymru gael statws cenedl a sedd ar fwrdd FIFA yn hytrach na statws annibynnol go-iawn. Unai hynny, neu mae Llwyd wedi colli cysylltiad gyda’r gwleidyddion a benderfynodd i ddychwelyd nôl i Gymru yn dilyn datganoli.

Am unwaith mae Rhodri Morgan wedi dangos ei fod yn lawer mwy o Gymro na aelodau'r "Blaid Genedlaethol" sydd wedi dod yn rhan o'r sefydliad PC sydd wedi ei greu yn "y Gymru newydd" fondigrybwyll. Mae o wedi gwrthod yn llwyr syniadau Straw sydd yn ein barn ni yn gwbl "lloerig".

The only Plaid Cymru MP who decided to stay in Westminster and not to step into the Assembly, has said that he will not dismiss completely the ideas of Jack straw to disband the Welsh team and create in it's stead a British (English) team. He said on the "Stondin Sulwyn" programme on Radio Cymru that Straw's ideas were not as "lunatic" as many had initially claimed. He said that a British team had existed for a long while in Rugby circles in the shape of the Lions. but wait for just one minute Elfyn - having the Lion's team has not in any way jeopardised Wales as a Rugby Nation. And any way, do you think that the stupidity of the Rugby "boys" is any justification for Straw's ludicrous comments

It seems that Plaid Cymru are having as much trouble when it comes to Wales' status as an independent footballing nation as they have with the political independence of the country. Perhaps they are claiming that Wales should have national status and a seat on FIFA but not full independence. Either that or Llwyd has lost contact with the politicians that decided to return to their country post-devolution.

For once Rhodri Morgan has showed himself to be more of a Welshman that the members of a party that has become part of the PC institutions created in "the new Wales". He has rejected entirely the ideas of Straw that are in our opinion "lunatic".

© Mêts Abbandonato.