Cymru yn Ewrop / Wales in Ewrope.

Do, unwaith eto, cafodd cynrychiolwyr Cymru yng Nghwpannau Ewrop eu hanwybyddu gan y BBC yng Nghymru - nid oes rhaid nodi fod HTV wedi cymryd yr un penderfynniad. Ond nawr mae'r BBC yn cael ei rheoli gan yr un dynes - Mena Richards - ag oedd yn arwain HTV wrth iddynt anwybyddu bodolaeth y Gynghrair Genedlaethol. Tybed a oes gan hyn unrywbeth i wneud a phenderfynniadau diweddar y BBC?

Wrth gwrs byddai y BBC yn dadlau fod y chwipiad a dderbynniodd Bangor yn erbyn Halmstad o 7-0 yn cyfiawnhau'r penderfynniad hwn. ond mae'n rhaid cofio bod y sianel hon wedi bod yn ddigon bodlon i ddangos timau Rygbi Cymru yn chwarae yng Nghwpan Ewrop - hyd yn oed os oeddynt yn derbyn 'cosfa' o bryd i'w gilydd. Gallai'r un gael ei ddweud am y tim Cenedlaethol a gollodd o sgor gyffelyb yn erbyn yr Iseldiroedd ychydig flynyddoedd yn ol. Ond ydi'r BBC yn defnyddio hyn fel cyfiawnhad i beidio peoni am gemau'r tim cenedlaethol?

Felly mae'n rhaid i ni ddiolch i'r drefn am Eurosport a ddangosodd gem Bari yn fyw yn ei chyfanrwydd. Rhaid ei llongyfarch ar y ffordd y cyflwynon nhw'r gem - wedi gwneud ei gwaith cartref - gan wybod mwy am rai o chwaraewyr y Bari na y byddai bobl fel Ian Walsh byth wedi trafferthu edrych i mewn iddo. Hefyd, yn wahannol i'r ffordd y cyflwynodd Channel 5 gem Cymru yn erbyn yr Eidal ychydig flynyddoedd yn ol - nid oedd y sylwebwyr yn 'patronising' o gwbl. Eurosport - diolch yn fawr am eich sylw yn absenoldeb unrhyw ddiddordeb o dy'r BBC.

It wasn’t much of a surprise that the BBC decided once again to ignore the games played in Europe during the week by Welsh clubs. Of course, there is no need to mention that the pseudo-channel HTV decided to do the same. The woman in charge of that channel for many years as it ignored Welsh domestic soccer over the years is Menna Richards, who has now taken over. Let’s hope that it is not her that is behind the increasing apathy shown by the BBC to this year’s European campaigns.

Sure, the excuse that will now be used after Bangor thrashing by a good Swedish side that the teams just aren’t good enough. But if they continue to show such disregard towards these teams there is little chance that things will ever get better. The BBC have been prepared enough in the past to show European rugby matches where the Welsh teams have been on the receiving end of thrashings – yes this has never deterred them. Also I would like to ask them the question if they ever had second thoughts of showing Welsh internationals after the hammering a few years back by the Netherlands?

Thank god therefore for Europe who decided to show the whole Barry match live – the first time we have ever been able to see what goes on in away leg. May I congratulate them on doing their homework on the Barry side and it’s players – something that Ian Walsh would never have bothered with. Unlike Channel 5 when they covered the Wales v Italy clash a while back, the commentators refrained from being patronising – Well done Eurosport!

© Mêts Abbandonato.