Ginger Winger.

Mae na glwb reit sal yn Lloegr yn dechrau mynd ar yn nerfau i. Na, dwi ddim yn cyfeirio at Manchester United, ond yn hytrach Coventry (neu Cyfyntri i rai cyflwynwyr radio o'r gogledd). Rydym i gyd yn cofio'r ffordd y gwrthododd y clwb eithriadol o wael hwn i Bellamy chwarae dros Gymru a hynny am ddim rheswm, gyda'r chwaraewr a meddygon Cymru yn bendant ei fod yn ffit ac yn barod i chwarae. Absenoldeb Bellamy oedd un o'r prif resymau pam ennillodd Cymru ond un pwynt o ddwy gem, lle awgrymai'r perfformiadau fwy na dystiai'r nifer pwyntiau. Dyma'r rheswm cyntaf pam y byddwn yn fuan yn dechrau ymgyrch yn erbyn y 'Ginger Winger' - Strachan - rheolwr blin a thrychinebus y clwb o ganolbarth Lloegr.

Ond heddiw mae clwb y 'winjar' Albanaidd wedi gwrthod symudiad Jonny Hartson o Coventry yn ôl i'r uwch gynghrair at Leicester. Maen't wedi dweud na fyddent yn hapus i Hartson adael y clwb sydd ar blymio i ddyfnderoedd Cynghreiriau Lloegr. Yn ein barn ni dylai'r ddau Gymro adael y clwb gwael hwn ar y cyfle cyntaf gan ei bod yn amlwg fod yr Albanwr sydd wrth y llyw yn wrth-Gymreig ag ar ben hynny yn un uffernol o wael. Amlygir y record hon wrth nodi iddo arwain y clwb o adran uchaf Lloegr ar ôl iddynt dreulio dros 20 mlynedd yn yr adran honno.

A poor club from England is starting to get on my nerves. And no, I am not talking about Manchester United, but rather, Coventry City (or Cuventry to radio presenters from the north). We all remember the way this extremely poor club refused Bellamy permission to play for Wales, for no apparent reason, with the player and Wales' medical staff adamant that of his fitness and ready to play. Bellamy's absence was the major reason why Wales only managed to win one point from their two qualifiers, when their performance suggested a greater haul of points could have been expected. This is the main reason why we will shortly starting a campaign against the 'Ginger Winger' - Strachan - the angry and disastrous manager of the English Midlands club.

But today, the Scottish 'winger' and his club have refused a move for Jonny Hartson from Coventry to the Premier League and Leicester. They have stated their opposition to any move by Hartson from a club plummeting toward the depths of the English League. In our view, both Welshmen should look for the first possible move from this sinking ship as it is clear that their Scottish boss is anti-Welsh and added to that take a look at his terrible record. This record is all apparent when you consider he has lead the club out of England's top league after they spent over 20 years in that division.

© Mêts Abbandonato.