Rule Britania. |
|
Ma'r dyn sy'n dad i Jynci wedi i gneud hi'r tro yma, o do. Mae Jack Straw wedi dweud yn ei ddoethineb y dylem ni gal un tîm i gynrychioli'r Brits i gyd, gan ddiddymu timau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs dydi hyn ddim yn dod fel syndod pan ydych chi'n ystyried fod Straw yn aelod i gabinet Tony Blair. Dyn sydd wedi penodi person i fod yn 'Weinidog dros Wladgarwch' yn ddiweddar - rhywbeth sydd efo tinc lled ffasgaidd dwi'n siwr wnewch chi gytuno. Wrth gwrs dydio'n fawr o syndod bod bobl yn dechrau sôn am gael tîm Prydain - roedd tafarnau mewn llefydd fel Abergele â hyd yn oed sawl tafarn yng Ngwynedd yn llawn o bobl oedd yn cefnogi Lloegr, a does gan y mwyafrif o Gymru ddim diddordeb mewn pêldroed sy'n digwydd o fewn ffiniau'r wlad. Does gan sylwebwyr radio Cymru ddim yr awydd i sylwebu os nad ydi hynny yn rhywle fel Manchester United. Mae un sylwebydd, sydd yn cefnogi Manchester United, wedi dweud eisoes ei fod yn ffan fawr o dim Lloegr. Cam bach ymlaen o hyn fyddai cael tîm Prydain Wedi'r cyfan. Byddai Owen Money yn gweld dim gwahaniaeth - mae o eisoes yn cyfeirio at Loegr fel us beth bynnag. A beth am y syniad o gael ffeinal cwpan yr FA yng Nghaerdydd - mae hyn yn cryfhau eto achos Straw. Ond dydw i ddim yn amddiffyn y ffŵl peidiwch â chamddeall. Dim ond clowniaid Toriaidd fyddai hyd yn oed yn ystyried gwneud hynny. Gyntaf mae Blair yn gwadu'r hawl i ni dweud ein bod yng Nghymru yn y cyfrifiad, wedyn mae o'n cefnogi diddymu’n tîm cenedlaethol. Lle'n union mae hyn yn ffitio i mewn i'r broses o ddatganoli mêt? |
The Straw man, father of a junkie, has done it this time. Jack Straw has said in his wisdom that we should have a 'national' team for all the Brits. This would mean abolishing the Scottish, Welsh and Northern Irish teams. Of course this comes as no surprise considering that Straw is part of Tony Blair's cabinet. A man who recently appointed a new 'minister for patriotism' - something that might just sound a bit on the fascist side for some. But it wasn't really a surprise that this would come about now was it. Pubs full of England supporters can already be witnessed in places like Abergele and even most parts of Gwynedd. Hardly anyone in Wales has an interest in football that takes place within the country's borders. Radio Cymru commentators aren't keen on covering games outside the 'Theatre of Dreams'. One commentator who's a big fan of Manchester United has already proclaimed that he supports the England team. It's only a small step from there to having a British Team. Owen Money would see no difference - he already refers to England as us. And what about the holding of the FA Cup in Cardiff? That isn't going to do Straw's case any harm now is it. Don't get me wrong, I'm not defending this guy. Only a Tory would be fool enough to even consider doing that. First Tony Blair denies the right for us to refer to ourselves as Welsh in the census, and then he tries to abolish our national team. How exactly does this fit into devolution mate? |
© Mêts Abbandonato. |