Er gwaetha beth mae'r jynced gyfryngol yn dweud, mae'r newyddion yr wythnos hon y bydd Cwpan England yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd yn drychinebus. Wrth gwrs fe gaeodd y cyfryngis seisnig ei agwedd eu clustiau i'r lleisiau ar raglenni ffonio oedd yn wrthwynebus iawn i'r newyddion ofnadwy yma. Arian trethdalwyr Cymru wedi cael ei drosglwyddo i'r Saeson, gyda'r 'bois Rygbi' sydd yn y cynnulliad ddim yn roi dam am Beldroed Cymru. Wrth gwrs roedd Gareth Glyn ar raglen Cymru 'Post Prynhawn' yn dadlau fod hwn yn newyddion da di-gymysg. Doedd o ddim yn ystyried y ffaith fod arian Cymru wedi cael ei roi yn syth ym mhocedi FA Lloegr fel newyddion drwg o gwbl. Doedd o ddim yn ystyried fel anfantais chwaith, y gallai statws Cymru fel gwlad beldroed annibynnol yn y fantol, wrth i wrthwynebwr y statws hwn ar draws y byd weld nad oes prin ddim ffin yn bodoli rhwng Pel-droed Cymru a Lleogr.

Doedd neb eisio clywed pan gwynodd Cymdeithas Bel-droed Cymru am safon gwarthus y Cae yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod Gem Cymru yn erbyn Norwy. Roedd yn ymddangos nad oedd tim Cenedlaethol ein gwlad yn ddigon pwysig i ddenu arian gan Rhodri Morgan. Ond, pan ddaeth y Saeson draw a dweud nad oedd yr arwyneb yn ei plesio nw, fe aeth y Cynnulliad ati yn syth i daflu arian at y broblem. Mae'r agwedd wasaidd afiach yma, sydd yn rhoi pel-droed Lloegr o flaen Cymru, yn dangos llawer am y gwleidyddion tila sydd yn ein 'cynrychioli' .

Despite what the media Junket has been telling us, the news this week that the Cup of Mighty England is coming to our backwater is disastrous. Of course the media, with their English attitudes, shut their years to the voices on phone-in programmes that were very much against this decision. Welsh tax-payers money transferred directly to the hands of the English, with the rugby boys at the Assembly not giving a damn about Welsh Football. Of course, Gareth Glyn on Radio Cymru's 'Post Prynhawn' though that this was good news without any drawbacks. He did not consider the fact taxpayer's money was handed over to the EFA as bad news. Neither did he consider it a disadvantage that the status of Wales as an independent football nation could be under threat, with those across the world against this status seeing this as proof that the division between Welsh and English football hardly exists at all.

Nobody wanted to know when the Welsh FA complained about the disgraceful standard of the pitch at the Millennium Stadium during the Wales-Norway match. It seemed that our National team was not important enough to attract money from Rhodri Morgan. But when the English came down and said that the surface did not please them, the Assembly went straight throw money at the situation. This disgusting serf-like attitude, which puts English Football in front of Wales, says a lot of the weak politicians that 'represent' us.

© Mêts Abbandonato.