Dyma'r
golofn achlysurol fydd yn adrodd ar ymddygiad y gwron hwn.
Byddwn yn tynnu sylw at ei olygyddiaeth o'r papur ynghyd
a'r rwtsh ma'r boi'n sgwennu.
30/10/00:Dydd Sul yma mae'r hen blot-gollwr wedi parhau efo'i rant feunyddiol am y drwg mae Cyngrair Cymru yn ei wneud. Mae'n dweud fod hi'n beth ofnadwy bod dyfarnwyr o Gymru ddim yn cael dyfarnu ar gemau yn Lloegr. Mae hefyd yn dweud yn eu ddull hollol gelwyddog nad yw dyfarnwyr Cymru yn cael rheoli gemau yng nghystadleuthau Ewropeaidd - celwydd llwyr. Efallai y byddai'n brofiad da i ddyfarnwyr Cymreig gael dyfarnu yng Nghyngrair Lloegr, ond mewn Pel-droed mae Cymru yn annibynnol o Lloegr ag felly yn system hollol wahannol. Ond, byddai caniatau hyn yn rhoi pwer i ddadl gwledydd eraill bod Cymru'n ei chael hi bob ffordd Unai ddylai Cymru barhau'n gwbl annibynnol neu uno'n llwyr a Lloegr. Does dim dadl yn erbyn hyn.
Mae Abbandonato hefyd yn datgan y bydd datblygiad yn digwydd yn y dyfodol agos fydd yn caniatau Caerdydd, Wrecsam ag Abertawe i chwarae yn Ewrop. Unwaith eto, byddai hyn yn esiampl o dimau Cymru yn cael mantesion uno efo Lloegr ag hefyd manteision statws annibynnol Cymru - a byddai gwledydd eraill yn iawn i ddadlau ei fod yn gwbl anheg. Rwan am y sialens - os fydd timau Cymreig Cyngrair Lloegr yn cael mynd i Ewrop trwy Gwpan Cymru o fewn y ddwy flynnedd nesaf byddaf yn cytuno i ganu "Oes gafr eto" ar gylch cannol y Cae Ras yn ystod hanner amser gem gartef.
9/10/00:Pwy yn y byd ydi'r dyn yma Joshua Jones? Cafodd y cwestiwn ei godi gan Ian Gwyn Hughes ar rufyn dydd Sul yma o Gôl. Ag mae hwn yn gwestiwn da yn enwedig pan ydych yn ystyried y tebygrwydd amlwg rhyngddo a Paul Abbandonato. Beth sy'n ychwanegu at hyn yw fod gan y ddau yr union yr un barn am bel-droed Cymru. Ond, ydi hyn yn ddigon o dystiolaeth i greu'r holl amheuaeth amdano? Dydw i ddim eisio gwneud rhywbeth mor bersonnol a gwneud hwyl ar ben enwau pobl, ond mae'n rhaid i chi gyfaddau nad oedd o'r boi mwya ffodus gan ei fod yn rhannu'r un enw a'r cymeriad animation a wnaed gan yr un bobl a Sam Tan.
Ond rhag ofn i ni gael ein cyhuddo o enllib, rydyn ni'n mynd i roi cyfle i'r Wales on Sunday brofi bodolaeth y dyn hwn. Wedi'r cyfan, pa reswm fyddai ganddynt i greu gohebydd newydd? Os ydych chi wedi gweld Joshua Jones yng Nghaerdydd neu yn un o'r gemau mae wedi sylwebu arnynt cysylltwch an ni. Gyda llaw, cawsom wybod pwy fydd gohebydd diweddaraf y Wales on Sunday yn gynharach heddiw - ie, neb llai na Bannana Man. Pob lwc yn dy swydd newydd!
2/10/00: Gwrandwch ar gyngor Paul Abandonato - cerrwch i weld gem Cymru yn stadiwm y mileniwm ar ddydd Sadwrn. Ond peidiwch mynd a disgwyl gweld eich gwlad yn curo Norwy. Cyfle yw hwn i gael gweld rai o ser Cyngrair Lloegr ar eich stepan drws ag hynny am ddim ond £10 - gewch chi byth gyfle i weld y chwaraewyr yma am bris mor resymol eto. Dydi Paul yn amlwg ddim yn gweld y cyfle i gael cefnogi eich gwlad fel digon o reswm i'ch dennu i Stadiwm y Mileniwm. Gymaint yw pwysigrwydd Cynghrair Lloegr, nid oes unrhywbeth arall yn ddigon pwysig i ddenu'r torfeydd ar gae yng Nghymru. Dydyw gem i'n tim cenedlaethol ddim hanner mor bwysig i bobl fel Paul Abbandonato na denu ffeinal y Gwpan FA i Gymru.
Pa bynnag mor fawr fydd yr achlysur dros y penwythnos nesaf, mae'n amlwg o ddarllen y Wales on Sunday, na fydd yn gem hanner mor bwysig ag ail rownd ragbrofol Cwpan Lloegr a gafodd ei chwarae y penwythnos diwethaf yng Nghasnewydd. Cafodd tudalen gyfan ei neilltuo i'r digwyddiad o holl-bwysigrwydd, ag hynny er mai dim ond llond dwrn o gefnogwyr Merthyr a wnaeth y daith fer i Gasnewydd.
3/9/00: Wel, mae'r hen Baul
wedi penderfynnu rhoi tudalen llawn o sylw ni yn y Wales
on Sunday yr wythnos hon. Enwogrwydd mawr!! Ond yn
anffodus mae'r hen foi wedi bod yn gyndyn i ddweud y gwir
mewn rhai mannau. Yn gyntaf, mae wedi dadlau ein bod yn
condmeio cefnogwyr timau fel Aberatwe, Caerdydd a Wrecsam.
Gallaf gadarnhau ar ol edrych yn fannwl ar y safle nad
oes sail i'r honniad hwn. Ga'i hefyd sicrhau Paul nad oes
unrhyw gondemniad wedi bod o'r sylw mae'r BBC yn ei roi i'r
cynghrair Cenedlaethol. Ond, wedi dweud hynny nid yw'n
berffaith.
Hoffwn gytuno efo Abbandonato fod ei bapur yn rhoi sylw i
bob gem yng Nghyngrair Cymru. Ond, cymharwch y modfeddi
colofn a roddwyd i holl gemau'r Gynghrair heddiw - 28"
- gyda'r llith a ysgrifennwyd am gem Bae Colwyn mewn 13".
Diolch i Paul Abbandonato gwyddom mai torfeydd tebyg i'r
band canol o glybiau Cynghrair Cymru sydd yn cael eu denu
i Llanelian Road.
9/7/00: Ma'r boi
wedi penderfynnu cymryd gwiliau yr wythnos hon, ond mae'n
ymddangos ei fod wedi gadael ei farc ar y bobl sydd wedi
ymgymryd at y dasg o lenwi'r bwlch a adawyd gan un o
ffigyrrau mwyaf dadleuol a niweidiol a welwyd ym Mhel-droed
Cymru.
Yn gyntaf, mae'r rhestr y gemau cyfeillgar a fydd yn cael
ei chwarae gan y 'Leading Soccer Clubs' yng Nghymru. Fel
y byddech yn disgwyl mae'n rhestru gemau y tri enfawr,
Caerdydd, Wrecsam ag Abertawe, yn ogystal ar clybiau 'mawr'
sydd yn chwarae yn adran 7 ranbarthol Lloegr. Ond, does
dim digon o le i enwi yr un gem gyfeillgar a fydd yn cael
chwarae gan glybiau Cynghrair Cymru. Yn amlwg, mae'r
golygydd dros-dro wedi penderfynnu bod hysbysu'r nifer
prin sy'n cefnogi Bae Colwyn yn bwysicach na rhoi
gwybodaeth i gefnogwyr timau fel Bangor, Aberystwyth,
Caerfyrddin, Llanelli a hyd yn oed Caersws sy'n fwy
niferus na cefnogwyr y clwb o Gynghrair Unibond. Ond,
peidiwch da chi a trafferthu gyrru eich sylwadau i'r
Wales on Sunday - cael sylw, nid oes dwy waith, oedd ei
hamcan. Ie, sylw, rhywbeth nad oedd TNS yn deilwng ohonno
yn ol y papur pen-ol hwn.
|
This is the column that will
report on the behaviour of this man. We will be drawing
attention to his editorship of the paper aswell as the
rubbish the bloke writes.
30/10/00:This week this plot-looser has persisted with his usuall rant about the "damage" the League of Wales is causing. This week he has turned his attention to the referees he says are missing out after being banned from refereeing in England. He continues his arguement with a lie. Wrongly stating that they are prevented form officiating in European compertition. Maybe it would be a good experience for Welsh refs to officiate in England. But in Football, Wales is indepentent from England and is therefore part of a completely seperate system. If this was allowed to happen it would fuel the just arguement of people oversses that Wales is getting the best of both wrolds. Either Wales should stay seperate from England or unify completely with them - it is impossible to argue against this.
Abbando also claims that there will be a development very soon that will allow the English League 3 back into Europe. Again this is an example of Welsh clubs trying to get the best of both worlds - allowed to play in the English League, but allowed into Europe thanks to Wales' independence on the football field. And now for the challenge - if any of the English League sides are allowed back to Europe through the Welsh Cup within the next two years I will sing "Oes gafr eto?"on the center-circle of the Rasecourse during half time of a home match.
9/10/00: Who the hell is Joshua Jones? This is a question that was triggered by a comment by Ian Gwyn Hughes on this Sunday's Gôl. And it is a good question when you consider the obvious likenes between him and Paul Abbandonato. Add to that their almost identical vues of Welsh Football and you see where Ian is comming from. But is this enough evidence to condemn Joshua to the imagination of Abbandonato? Now I'm not one to go personal and make fun of the bloke's name, but you have to say he wasn't the luckies boy to be named after an animation character from the makers of Fireman Sam. But before we are accused of malace we are prepared to give Wales on Sunday a chance to prove that Jones is not a myth. I mean, why on earth would they need to have a make-beleive reporter? If you have seen Joshua Jones in Cardiff or in one of the games he has reported on drop us a line. Now for some news just in - we have just learnt who Wales on Sunday's newest reporter is - yep it's Banana Man. Good luck in your new job! 2/10/00: Listen to Paul's advice - go and watch Wales against Norway next Saturday. But don't be fooled for a minute that Wales even have the slightest chance of a win. No, the reason you should take a trip to the Millennium Stadium is that it is a not-to-be-missed chance to see an array of English Premiership stars right here on your doorstep and that for the unbeatable price of £10 - where else can you get such a bargain? It seems that the chance to see your country is not reason enough for you to deposit your tenner at the gate. So absorbed are we in the English League, no other football will please us. For Abbandonato, and his ilk, an international match at the Millennium Stadium pales into insignificance compared with the FA Cup Final that will grace the hallowed turf of what is our National Football arena. However big the occasion next Saturday, it does not figure when you compare it with the enormity of the occasion just down the road in Newport last Saturday - that's the impression I got from reading last Sunday's Wales on Sunday. A whole page was afforded to this FA Cup second preliminary round match between Newport and Merthyr last Sunday - and that despite only a handful of Merthyr supporters making the short trip.3/9/00: Well, old Paul has decided to devote a
full page for this site in his paper. Fame indeed!!
But, unfortunately the old chap has decided to be a bit
economical with the truth in some aspects of his report.
Firstly, he has claimed that we have spoken out against
supporters of Swansea, Cardiff and Wrexham. But after a
close look at the site today I have failed to find this
comment and can therefore dismiss these false claims. Can
I also assure Paul that I have not condemned the coverage
given to the LofW by the BBC. But, having said that,
it is far from perfect.
I would like to agree with Abbandonato that his paper
covers every game in the League of Wales. But compare the
column inches afforded todayto the whole League -28"
- with the 13" of space given to Colwyn Bay's match.
A club that, as we know, thanks to Wales on Sunday's
figures, only attracts the same kind of crowds as the
middle band of LofW clubs.
9/7/00:
The bloke's decided to take his holiday this week, but it
seemes that he's left his mark on the people who have
taken to the task of filling the boots of one of the most
controversial and damaging figures Welsh football has
ever had to experience his presence.
Firstly, the list of friendly matches which will be
played by the 'Leading Soccer Clubs' in Wales. As you
would expect, it lst's the friendly's played by the huge
three, Cardiff, Seansea and Wrecsam, as well as the 'big'
clubs who play their football in England's regionalised
division 7. But there is no room to mention any friendly
match played by League of Wales clubs. Obviously, the
tmporary editor has decided that informing the low
numbers who support the mighty Colwyn Bay is more
important than giving information to the supporters of
clubs like Bangor, Aberystwyth, Carmarthen, Llanelli and
even Caersws who are more numerous than the following of
the Unibond League club. But, don't bother sending your
comments to the Wales on Sunday - getting attention,
undoubtedly, was their aim. Yes, attention - something
that TNS didn't deserve according to this back-side paper.
|