Newyddion Syfrdannol / Shocking News.

Be di hyn? Ryan Giggs wedi tynnu allan o garfan Cymru? All be dwi'n clywed ddim bod yn wir. Dyna ddigon o falu cachu am rwan - ma'r Albanwr blin wedi neud o eto gan roi triniaeth wahannol i Gymru a Lloegr. Er fod Bekham allan o dim Man U ar hyn o bryd, doedd dim yn rhaid gofyn dwy waith os fyddai'r sais yn cael chwarae dros ei wlad. Ond pan ofynnodd Mark Hughes os fyddai Giggs, sydd hefyd wedi bod allan o garfan Man U, yn cael ymuno a'i wlad, nid oedd Ferguson mor barod ei gymwynas ag yr oedd efo Erikson. Yn wir, roedd rhaid roi pwysau mawr ar yr Albanwr cynnil i sicrhau gwasanaethau Giggs ar gyfer yr ail gêm yn erbyn yr Iwcraen.

Efallai fod Giggs wedi dioddef o anaf ers peth amser, ond mae pob tystiolaeth yn awgrymu ei fod bellach ar ei ffordd yn ôl i ffitrwydd llawn. Roedd ffisio's Cymru yn hyderus y byddent wedi gallu sicrhau fod Giggs yn ffit ar gyfer gêm Armenia. Ond doedd Syr Alex ddim eisio gwybod, ag yn ddigon parod i ddangos nad oedd yn malio dim am ei gyd Geltiaid. Mae'n amlwg fod cael ei urddo gan Frenhines Lloegr wedi gwneud i'r Albanwr hwn anghofio am ei wreiddiau celtaidd.

What's this? ryan Giggs has pulled out of the Welsh squad? This can't be true. OK, that's enough rubbish for now - the angry Scotsman has done it again - giving Wales a different deal to England. Despite Beckham being out of the Man U squad, there was no need for England to ask twice before securing his services for his country. But when Mark Hughes asked if Giggs, who has also been out of the Manu squad recently, if he would be releaced to play for Wales, Ferguson wasn't as ready to help Hughes as he had been Erikson. Indeed, great pressure had to be placed on the tight-fisted Scotsman, to secure Giggs' services against Ukrain.

Giggs has suffered from an injury for quite some time, but all the evidence suggests that he is well on his way back to full fitness. Wales' physio's reckoned they would have been able to secure Giggs' fittness for the Armenia game. But Sir Alex didn't want to know, and was prepared to show that he didn't give a damn about his fellow Celts. It's clear, that being nighted by the English Queen has led this Scot to forget his Celtic roots.

© Mêts Abbandonato.