Ta Ta Winger. |
|
Mae Craig Bellamy wedi gadael Coventry a'i rheolwr gwrth-gymreig wrth i Stachan arwain ei glwb ymhellach i'r dyfnderoedd. Cadarnhawyd fod Bellamy wedi ymuno a Newcastle am £6,000,000 er mwyn cael dychwelyd i'r Uwch Gynghrair. Y gobaith yw na fydd Bellamy yn cael ei rwystro rhag chwarae dros Gymru fel y roedd yn Coventry, gyda'r Albanwr blin yn ei rwystro rhag chwarae i Gymru mewn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd hollbwysig. Yn amlwg roedd y penderfynniad cwbl anerbyniol hwn i wahardd Bellamy rhag chwarae i'w wlad yn ffactor a'i gwnaeth yn haws i Bellamy adael y twll yng nghanolbarth Lloegr. Does ond gobeithio y bydd Hartson yn dilyn ei lwybyr allan o Coventry er ei les o, ag er lles Cymru. Mae posib bydd polisi o'r fath yn cael ei gymryd yn erbyn Hartson yn y dyfodol agos wrth i'r 'Ginger Winger' (Strachan) roi yn y cysgod rai o benderfyniadau ei gyd-wladwr Alex Ferguson a rwystrodd Giggs a Hughes rhag chwarae i'w gwlad yn y gorffennol. Mae'n amlwg fod gan yr Albanwyr rywbeth yn erbyn Cymru yn ôl agwedd rai o'r rheolwyr sy'n dod o'r wlad, a pwy all anghofio am Jo Jordan? Anghofiwch am solidariaeth celtaidd | Craig Bellamy has left Coventry and their anti-Welsh manager as Strachan leads his club further into the depths. It was confirmed today that Bellamy has joined Newcastle for £6,000,000 in order to return to the Premier League. The hope is that Bellamy will not be prevented from representing Wales as he was in Coventry, with the angry Scotsman preventing Bellamy playing for Wales in all-important World Cup qualifiers. Clearly, the club's completely unacceptable decision to ban Bellamy from playing for his country was a factor in Bellamy's decision to leave the hole in central England. We can only hope that Hartson will follow Bellamy's path out of Coventry for his own good, and for the good of his country. It's possible such a policy could be taken to deal with Hartson in the near future as the 'Ginger Winger' (Strachan) puts in the shade some of the past decisions of Alex Ferguson to prevent Giggs and Hughes from playing for Wales. It's clear the Scots have something against us, what with the attitude of Scottish managers toward our National team, and who can forget Jo Jordan? Forget about pan-Celtic solidarity. |
© Mêts Abbandonato. |