Pwy 'di dy dad di? Whose your Daddy? |
|
Dwi newydd fod yn edrych ar y rhaglen ofnadwy na am bêl-droed ar ITV - On the Ball neu rywbeth ag i fod yn onest dwi wedi gwylltio yn blydi cacwn. Pwy sy'n cyflwyno'r rhaglen - wel Gabby Yorath, mae i tad hi i fod yn enwog medda nw wrtha i. Ond faint o amser oedd ganddi i roi i'r wlad y gadawodd ei thad ar ôl - llai na hanner munud. Roedd Lloegr wrth gwrs yn haeddu hanner awr o sylw gan y boi efo'r llais boring a'r cliches di bendraw - Barry Venison. Wrth gwrth doedd Barry ddim yn gwbod Bugger all am Gymru felly doedd y twpsyn ddim yn gallu hyd yn oed dod allan efo'r hen 'gliche' na bod na ddim gemau hawdd mewn pêl-droed rhyngwladol yn enwedig pan rydych yn chwarae yn Nwyrain Ewrop. A pa sylw oedd gan Yorath am gyn wlad ei thad? Dweud nad oedd Cymru wedi ennill gem yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd mewn 5 mlynedd. Y ffaith nath hi adael allan oedd mai dim ond 6 gêm cwpan y byd sydd wedi ei chwarae yn y cyfnod hwnw. Efallai nad yw hon yn record dda, ond doedd ganddi hi ddim byd mor negatif iw ddweud am Loegr sydd heb ennill eto yn ei grwp ar ôl cael Ewro 2000 trychinebus. Mae'n amlwg fod ei thad 'bitter' wedi pasio ymlaen ychydig o'i atgasedd tuag at Gymru iddi. Beth oedd hi'n trio dweud oedd - dydi petha ddim cystal a pen oedd Dadi wrthi. Fel y byddech yn disgwyl nid oes unrhyw Gymreictod yn perthyn i'r ferch hon sydd wedi byw ei hoes yngngwlad fabwysiedig ei thad. |
I've just been watching that terrible football show on ITV - whats it's name On the Ball or something? To be honest with you it's made me very, very bloody angry. And who presents this 'show' (too strong a word to use for anything that appears on ITV) - Gabby Yorath. They tell me that her father was once famous. But how much time could she afford for her Father's ex-country - less than half a minute. England of course deserved half an hour with Cliche-ridden Barry Venison dronign on for what seemed an age. Of course, Barry didn't know a damn thing about Wales - he couldn't even come out with his usuall repertoir of - there are no easy games in international football and Eastern Europe isn't an easy place to go to. What did Gabby have to say about the country her dad left behind? She came out with a comment that wales hadn't won a World Cup quallifier for five years. What she forgot to mention was that only 6 such games were played during that period. Sure, this isnt a good record, but she didn't have anything as negative to say about England, who haven't won yet in their group after a disasterous Euro 2000. It's clear that her bitter father has passed on some of his hatred toward Wales to his daughter. What she was trying to say was - things aren't as good as when my daddy was in charge. As you would imagine there is no Welshness in this girl who has lived her life in her dad's adopted country. |
© Mêts Abbandonato. |