Tudalen Agoriadol |Cysylltiadau | Dyn o flaen ei amser | Eglwys Mihangel Sant, Cwm Du | Ysgol Cwm Du |

 
 
 Rhaglen Haf / Hydref 2002  
 

Mae diddordeb mewn hanes Cymru ar gynnydd. Dyna neges Keith Bush, Cadeirydd Cymdeithas Carnhuanawc i aelodau'r Gymdeithas wrth gynllunio gweithgareddau'r dyfodol.

Ddechrau mis Mawrth anerchwyd y Gymdeithas gan Ieuan Wyn Jones,A.C. Ei destun oedd y newyddiadurwr, gwleidydd, a'r pregethwr, Thomas Gee. Cafwyd trafodaeth frwd, gyda'r aelodau yn amlwg wedi'u bodloni ar feistrolaeth y siaradwr ar ei bwnc. Daeth yr anerchiad yn sgîl cyhoeddi Cofiant Thomas Gee gan Ieuan Wyn Jones, a'i ddarlith lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.

 
 {short description of image}
Dydd Sadwrn , 25ain Mai 2.30pm Mae Cymdeithas Carnhuanawc yn cynnal cyngherdd / gwasanaeth dwyieithiog byr yn Eglwys Mihangel Sant , Cwmdu , Crughywel i ddathlu bywyd a gwaith Carnhuanawc [Y Parch.Thomas Price].Yn dilyn bydd yr hanesydd Dr. John Davies mewn seremoni fer yn dadorchuddio'r gofeb ar feddrod Carnhuanawc.. Trefnir lluniaeth ysgafn yn neuadd yr Eglwys i gloi y dathliadau

Manylion a Lluniau 
 Dydd Sadwrn , 13 Gorffennaf Gwibdaith Gwent gyda'n harweinwydd Frank Olding o 'Cadw' a chyflwynydd y rhaglen 'Reading the Ruins' BBC 2 Wales. Cysylltwch â Alan a Catherine Jobbins [Carnhuanawc @onetel.net.uk]am fwy o wybodaeth  Dydd Mawrth 30 Gorffennaf , 3.30pm ar dir y castell Fel rhan o weithgaredd Gwyl Gelfyddydau Y Fenni bydd Keith Bush, ein cadeirydd yn siarad yn Saesneg am Garnhuanawc Gyda llaw mae arddangosfa hardd iawn a thra diddorol am Augusta Hall " Gwennyen Gwent" yn Amgueddfa'r Fenni yn rhoi sylw i Garnhuanawc. Bydd yr arddangosfa'n dod i ben ddiwedd mis Awst.
  Dydd Mercher , 6ed Awst
12.00 - 1.00pm
Eisteddfod Genedlaethol
Darlith Carnhuanawc : " Iaith enaid ar ei Thannau" - Gwenynen Gwent a'r Delyn .Darlith / Datganiad gan Y Delynores Ann Griffiths i ddathlu daucanmlwyddiant geni Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer [1802-1896]. Cyfle prin i glywed telyn deires a saerniwyd ar y stad , ynhyd â thelyn Erard o'r un cyfnod  
 Nos Fercher ,7fed Tachwedd , Churchills ,Llandaf , Caerdydd Cinio Coffa Carnhuanawc. Siaradwr/wraig i'w drefnu Mwy o fanylion maes o law.  
  O' r Wasg 'Dyn o Flaen ei Amser' , "Y Llan ", Newyddiadur yr Eglwys yng Nhymru - Rhifyn Ebrill 2002 'Carnhuanawc - Forgotten Champion of the Nation's Heritage', " Cambria" The National Magazine for Wales, Spring Edition 2002  
Llofnodwch llyfr ymwelwyr Edrych ar lyfr ymwelwyr

Tudalen Agoriadol |Cysylltiadau | Dyn o flaen ei amser | Eglwys Mihangel Sant, Cwm Du | Ysgol Cwm Du |