Tudalen Agoriadol | Cysylltiadau | Cymdeithas Carhuanawc |Eglwys Mihangel Sant, Cwm Du | Ysgol Cwm Du |
![]() |
|
Carnhuanawc - "Dyn o flaen ei amser " | |
![]() |
|
Rhwng 1836 - 1842 cyhoeddwyd ei lyfr 'Hanes Cymru' llyfr y bu bri mawr arno ar y pryd. Roedd Carnhuanawc yn ymgyrchydd heb ei ail dros 'Y Pethe'. Chwaraeodd ran allweddol mewn sefydlu eisteddfodau drwy Gymru. Cynorthwyodd Charlotte Guest i gyfieithu'r Mabinogi i'r Saesneg ac roedd yn ffrind agos i Arglwyddes Llanofer a hi a'i helpodd i sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni yn 1833. | ![]() |
Ymboenai am ddiwylliant Cymru.
Sefydlodd Gymdeithas Lawysgrifau Cymru, rhagflaenydd Y Llyfrgell Genedlaethol
yn Aberystwyth. Gydol ei oes bu ganddo ddiddordeb yn llên gwerin Cymru,
ei dawnsfeydd gwerin ac yng nghanu'r delyn. Arweiniodd yr olaf tuag at sefydlu
Cymdeithas Alawon Cymru. Bu creu cysylltiadau â'i gyd Geltiaid ymysg ei amryw weithgareddau. Ymddiddorai'n fawr ym myd natur ac roedd ei wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid yn eang Mynnai ddefnyddio eu henwau Cymraeg. Hoffem fel Cymdeithas anrhydeddu cyfraniad Carnhuanawc i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant. Eisoes rhoddwyd cofeb ar ei hen ysgol yn Felindre (Cwmdu) a rhodd o lyfrau Cymraeg ar gyfer ail-iaith i ysgol gynradd y pentref. |
|
Tudalen Agoriadol | Cysylltiadau | Cymdeithas Carhuanawc |Eglwys Mihangel Sant, Cwm Du | Ysgol Cwm Du |