Gwelid yn ei gorff
gwiwlan,
Ei wisg lwys a'i faesau
glân,
Ei dalcen mawr ysplenydd,
Ei wen deg mal huan dydd
Ei eres lygaid eirian,
Hylym a dwys mal fflam dân,
A'i gerddediad gorddidawr
Nodau mwys ei enaid mawr.
Ei lais oedd fel y delyn
Synai a denai bob dyn.
Ffrwyth Hymettus, felus faeth,
Oedd ei eres dda araeth.